Busnes bach annibynnol a sefydlwyd yn ddiweddar yn cynnig cyfle unigryw i ymweld â gemau cudd Cymru. Ar ôl gweithio yn y sector Treftadaeth am dros ugain mlynedd mae gan Dylan Jones angerdd am hanes Cymru ac mae’n gymwys iawn i fynd a’r ymwelydd o amgylch ei wlad enedigol. Bydd y gwibdeithiau yma yn sicr yn rhoi cyfle i’r ymwelydd brofi’r mythau, chwedlau a rhyfeddodau go iawn Cymru. Wedi iddo ymchilio a chyhoeddi ar lawer o’i arbenigeddau mae’r teithiau yn tynnu ar wybodaeth helaeth Dylan yn y sector Treftadaeth. Nodwch y bydd y teithiau hefyd yn cael eu teilwra i gwmpasu’r chwaeth niferus a diddordebau gwahanol unigolion – dim ond i chi ofyn!